Cyfarfod y Grŵp Trawsbleidiol ar Ffydd

Duw a rhyw – grwpiau ffydd yn mynd i'r afael â phornograffi

 Ystafell Friffio'r Cyfryngau, y Senedd, ddydd Mercher 8 Gorffennaf 2015 rhwng 12.00 a 13:15

 

Yn bresennol:

1.       Alex Bellamy, profiad gwaith

2.       Darren Millar AC (Cadeirydd)

3.       David Forward – Eglwys Iesu Grist a Saint y Dyddiau Diwethaf

4.       Ellana Thomas – Gweithiwr Prosiect Cam-drin Domestig, Cyngor Sir Caerfyrddin

5.       Esther Holt, Cydgysylltydd Datblygu Prosiect – Care for the Family

6.       Gwilym Roberts, Prif Weithredwr, Relate Cymru

7.       Ian Govier – Eglwys Iesu Grist a Saint y Dyddiau Diwethaf

8.       Jim Stewart, Swyddog Eiriolaeth a Materion Cyhoeddus, Cynghrair Efengylaidd Cymru (Ysgrifennydd)

9.       Jonathan Isaac

10.   Julie Jones, Swyddog Materion Cyhoeddus Cymru, Eglwys Iesu Grist a Saint y Dyddiau Diwethaf

11.   Julie Morgan AC

12.   Karin Cooke, Prosiect Porn Scars, Naked Truth (Siaradwr)

13.   Lucy Brown, profiad gwaith

14.   Mary Millar, profiad gwaith

15.   Mavis Harris

16.   Mia Rees, Cynorthwyydd y Cynulliad i Darren Millar AC

17.   Mohammad Asghar AC

18.   Prad Halai, y gymuned Hindŵaidd

19.   Y Parchedig Dr Philip Manghan, Cynghorwr y Gwasanaeth Addysg Catholig dros Gymru

20.   Y Parchedig Elfed Godding, Cyfarwyddwr Cenedlaethol, Cynghrair Efengylaidd Cymru

21.   Y Parchedig Peter Noble, Caplan, Partneriaeth Ecwmenaidd Lleol Bae Caerdydd

22.   Ruth Mullineux, Swyddog Polisi, NSPCC Cymru

23.   Saffa Ibrahim, Sef Cymru

24.   Samina Khan, Cyd-gadeirydd, Grŵp Rhanddeiliaid Cardiff Prevent

25.   Sarah Witcombe-Hayes NSPCC Cymru

26.   Shakilah Malik, Swyddog Addysg Cymunedol, Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd, Cyngor Caerdydd

27.   Shereen Aziz, Cyfarwyddwr, Sefydliad Henna (Siaradwr)

 

Ymddiheuriadau:

1.       Arfon Jones, Cymdeithas y Beibl a Gobaith i Gymru

2.       Yr Esgob John Davies, Esgob Abertawe ac Aberhonddu

3.       Carys Moseley, Swyddog Cyfathrebu, Eglwys Bresbyteraidd Cymru

4.       Lisa Gerson, Cardiff United Synagogue

5.       Y Parchedig Aled Edwards, Prif Weithredwr, Cytûn

6.       Sally Thomas, Swyddog Ecwmenaidd, yr Eglwys Unedig Ddiwygiedig

7.       Stanley Soffa, Cyngor Cynrychioli Iddewon De Cymru

8.       Wynford Elis Owen, Prif Weithredwr, The Living Room

9.       Gethin Rhys, Cytûn

 

Nid yw'r Grŵp Trawsbleidiol hwn yn gwahaniaethu rhwng aelodau'r grŵp a gwesteion allanol, gan fod y lleoedd yn y cyfarfodydd yn cael eu llenwi ar sail y cyntaf i'r felin.

 

Cofnodion

 

1.       Croesawodd Darren Millar AC bawb, gan nodi unrhyw ymddiheuriadau.

 

2.       Cyflwynwyd y ddau siaradwr, Karin Cooke o The Naked Truth a Shereen Aziz-Williams o'r Sefydliad Henna, a rhoddodd y ddau gyflwyniad deng munud ar Duw a rhyw - grwpiau ffydd yn mynd i'r afael â phornograffi

 

3.       Cafwyd trafodaeth a sesiwn holi ac ateb ar ôl y cyflwyniadau.

 

4.       Y camau gweithredu a ddeilliodd o'r cyfarfod oedd:

 

a.       Ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn pa ystyriaeth sydd wedi'i rhoi i wneud newidiadau i'r system drwyddedu er mwyn atal mynediad at bornograffi.

 

b.      Ysgrifennu at y Gweinidog Addysg yn gofyn beth sy'n cael ei wneud i ddatblygu'r cwricwlwm ymhellach er mwyn mynd i'r afael â phroblemau a achosir gan bornograffi

 

c.       Ysgrifennu at y Gweinidog Addysg yn gofyn a gaiff canllawiau'r llywodraeth eu hailystyried er mwyn rhoi'r adnoddau i athrawon a'r rheini sy'n arwain ysgolion fynd i'r afael â'r heriau a gyflwynir yn sgil disgyblion a chydweithwyr yn cael mynediad at bornograffi

 

d.      Ysgrifennu a Brif Weinidog Cymru yn gofyn beth y bydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ehangu gwasanaethau cwnsela er mwyn osgoi mynd yn gaeth i bornograffi a helpu i adfer ymddygiad problematig yn sgil pornograffi.

 

5.       Daeth Darren Millar AC â'r cyfarfod i ben, gan nodi y byddai manylion y cyfarfod nesaf yn cael eu dosbarthu drwy e-bost gan Jim Stewart.